betterlanguages.com

Cartref cyfieithu
o'r radd flaenaf
 
   
Darparwr cyfieithiadau cymeradwy
mothercare UK Ltd
 
Cyfieithu labeli amlieithog: Boed cyfarwyddiadau gofal golchi a chynnwys ffibr i'r sector dillad a thecstilau, hysbysiad rhybudd am berygl, neu becyn ar gyfer persawr, rydym yn gofalu am ein cwsmeriaid, gan ddarparu cyfieithu ansawdd dda a gwasanaeth proffesiynol wedi ei bersonoleiddio.

Cyfieithu labeli a phecynnau ansawdd dda at eich holl anghenion cyfieithu busnes: Caiff ein cyfieithwyr eu dewis yn ofalus nid yn unig am eu harbenigedd ieithyddol, ond hefyd am eu gwybodaeth a'u profiad arbenigol. Gweithiwn gyda chi i sicrhau ein bod yn defnyddio terminoleg gyson.

Gwasanaeth personol, teilwredig:
Deallwn anghenion unigryw'r diwydiant labelu a phecynnu, a byddwn yn gweithio'n agos gyda chi i ddarparu gwasanaeth cyfieithu personol teilwredig. Byddwn yn enwi'r aelod staff a fydd yn gweithio i chi ac fydd ar gael drwy'r ffôn neu e-bost uniongyrcholl.

Mae'r holl waith yn cael ei wirio cyn ei anfon allan. Gallwn roi pris am brawfddarllen gan ail gyfieithydd os oes angen hynny. Rydym bob amser yn defnyddio siaradwyr brodorol yn yr iaith darged er mwyn sicrhau min a chywirdeb mynegiant.

Amserlenni: Deallwn ddyddiadau terfyn argraffu, a byddwn yn troi gwaith o gwmpas yn sydyn iawn, fel arfer cyn pen 24 awr yn achos testunau byr. Ni fyddwn yn addo unrhyw beth na allwn ei gyflawni.

Nid oes yr un swydd yn rhy fawr neu'n rhy fach: Rydym wedi adeiladu'n henw da ar ein gallu i gyflwyno ac rydym yn hyderus na chawn ein curo o ran cyflymder, ansawdd na phris.
  Cyfieithu Labeli Dillad

Cyfieithu Labeli Bwyd

Cyfieithu Labeli Poteli
 



 
 
Hawlfraint © 2006 asiantaeth gyfieithu betterlanguages.com.
Cedwir pob hawl.

 
Cyfieithu Labeli

betterlanguages.com
5 Nursery Road, Bingham, Nottingham, NG13 8EH, DU.

Ffôn: 01949 839810