Y broblem: mae angen i chi gyfathrebu ar draws ieithoedd
a diwylliannau drwy lythyr, e-bost neu'r ffôn.
Yr ateb: mae betterlanguages.com yn arbenigo mewn gwaith
cyfryngol. Gallwn gynnig atebion cyflym a chost-effeithiol,
drwy gyfieithu llythyron ac e-byst, neu drwy ddarparu cyfieithwyr
i wneud yr alwad ffôn bwysig honno. Rydyn ni bob amser
yn defnyddio siaradwyr brodorol yr iaith darged, er mwyn sicrhau
fod y cyfathrebiad â llif a theimlad y copi gwreiddiol
yn yr iaith darged.
Dyma rai enghreifftiau o waith cyfryngol gan betterlanguages.com:
Cyfieithu llythyron byr ac
e-byst rhwng cwmni peirianneg Almaenig a'i gyflenwr yn
y DU, HK Founders. Canlyniad: yn ystod y 4 blynedd diwethaf
mae'r cwmni yn y DU wedi gallu cyflenwi cynhyrchion plât
metel a delio'n effeithiol ag archebion, ymholiadau, a
gwasanaeth ôl-werthu.
Cyfieithu cais am wybodaeth
ariannol i gwmni o gyfrifwyr, yn annog eu cleient Almaenig
i ildio gwybodaeth roedd wedi ei hatal o'r blaen.
Cyfieithu gohebiaeth gyfreithiol
rhwng cyfreithwyr yn y DU a'r Almaen.
Cyfieithu a lleoleiddio datganiadau
i'r wasg i dair o ieithoedd canolbarth Ewrop ar ran cwmni
Cysylltiadau Cyhoeddus lleol.
Cyswllt ffôn ag adeiladwr
i helpu i ddatrys anghydfod dros fflat gwyliau yn Sbaen.