betterlanguages.com

Cartref cyfieithu
o'r radd flaenaf
 
   

Yr hyn mae'n cwsmeriaid ni'n ei ddweud
amdanon ni:

"Chi yw'r unig asiantaeth gyfieithu rydyn ni'n ei defnyddio, rydych chi
mor ddibynadwy"

HK Founders


"Yn ddibynadwy iawn, rydych chi bob amser
yno i ni, ac rydych
chi'n gyflym"

Julie Haslam
Paxar UK



"Diolch Mike am ymateb mor fuan, bydd fy nghwsmer i wrth ei
fodd, wir!!!"

Jodie Cordery,
Gweinyddydd GwerthuLabelon
Sales Cyf

 
Mae betterlanguages.com yn darparu cyfieithu proffesiynol cyflym a chywir rhwng y Saesneg a'r holl brif ieithoedd, a cheisiwn ragori ym mhopeth rydym yn ei wneud. Mae ein tîm o ieithyddion proffesiynol cymwys a phrofiadol yn cael eu detholi'n fanwl gywir, ac yn cael eu cydweddu'n ofalus yn ôl eu gallu ieithyddol a'u harbenigedd i'r aseiniad cyfieithu unigol. Mynnwch wybod mwy am sut rydym yn dethol ein tîm o gyfieithwyr arbenigol.

Trafodwch eich anghenion cyfieithu drwy ffonio 01949 839810 neu am ymateb cyflym drwy'r e-bost defnyddiwch ein tudalen gysylltu.


Yr hyn rydym yn ei gynnig:

  Asiantaeth gyfieithu ar y we sy'n cynnig gwasanaeth ansawdd dda sy'n gyflym ac yn gywir, a hynny am bris cystadleuol
  Dychwelyd gwaith yr un diwrnod neu'r diwrnod wedyn os yw cyfieithiadau'n fyr
  Nifer fawr o ieithoedd
  Cyfraddau arbennig ar gyfer dogfennau byr
  Grwp rhagorol o gyfieithwyr arbenigol sy'n cyfieithu i'w hiaith frodorol
  Testunau cyffredinol am brisiau cystadleuol
  Pob arbenigedd, gan gynnwys labeli a phecynnau, busnes cyffredinol a thestunau meddygol

Cynigiwn unrhyw gyfuniad iaith â Saesneg, ac ystod gynyddol o ieithoedd mewn cyfuniad â Sbaeneg. Enghraifft o'n gwaith nodweddiadol yw'r label a gyfieithasom yn ddiweddar i 14 o ieithoedd Dwyrain Ewrop. Mae ein holl gyfieithwyr yn frodorol ac yn cyfieithu i'w mamiaith yn unig, a defnyddiwn gyfieithwyr arbenigol ar gyfer pob testun cyfieithu technegol. Cewch anfon y gwaith atom drwy'r e-bost, ffacs, post neu negesydd yn ôl eich anghenion chi, a gallwn ddychwelyd y dogfennau wedi eu cyfieithu yn electronig, neu drwy ddisg a/neu gopi caled.


 
 
Hawlfraint © 2006 asiantaeth gyfieithu betterlanguages.com.
Cedwir pob hawl.

 
Gwasanaethau Cyfieithu


Darperir cyfieithu rhwng Saesneg ac ieithoedd Ewropeaidd fel:

Sbaeneg, Ffrangeg, Almaeneg, Iseldireg, Fflemeg,Portiwgaleg, Pwyleg, Rwsieg, Groeg, Malteg, Slofaceg, Tsiec, Hwngareg, Latfieg, Lithwaneg, a Slofeneg;

Ieithoedd Asiaidd, y Dwyrain Canol a'r Dwyrain Pell, gan gynnwys Tyrceg, Arabeg, Ffarsi, Siapaneg, Corëeg, Tsieinëeg Syml a Tsieinëeg Draddodiadol.
betterlanguages.com
5 Nursery Road, Bingham, Nottingham, NG13 8EH, DU.

Ffôn: 01949 839810