|
|
| |
Os ydych chi'n gyfieithydd llawrydd ac yn dymuno gwybod mwy
am weithio gyda betterlanguages.com, darllenwch y dudalen hon.
Os ydych chi'n bodloni'n meini prawf ni ac mae gennych chi ddiddordeb
mewn gwaith cyfieithu llawrydd, cliciwch ar y ddolen ar waelod
y dudalen i anfon eich CV atom. Dilynwch y ddolen
hon os ydych yn chwilio am ein hafan cyfieithu.
Mae angen arbennig arnom am gyfieithwyr i gyfieithu testunau
byr ac i gyfieithu meysydd technegol arbenigol. Os ydych chi'n
gleient presennol neu'n ddarpar gleient, cewch ddarganfod mwy
am ein gofynion wrth ddethol cyfieithwyr.
Cyfieithwyr llawrydd: Os hoffech gael eich ystyried i weithio
gyda betterlanguages.com, sicrhewch eich bod yn nodi'n glir
eich ieithoedd, meysydd arbenigedd, eich cyfradd am bob mil
o eiriau a'ch isafswm tâl, ac unrhyw feddalwedd neu eiriaduron
arbenigol rydych chi'n eu defnyddio. Mae angen i gyfieithwyr
allu darparu dau dystlythyr proffesiynol, a/neu ddangos aelodaeth
o gorff proffesiynol cydnabyddedig fel yr ITI
neu'r IOL
Nodwch nad ydym ond yn derbyn CVs Saesneg, a hynny am ein bod
ni'n cyfieithu'n bennaf ieithoedd eraill wedi eu paru â
Saesneg. Yr unig eithriad yw os ydych yn cynnig Sbaeneg wedi
ei pharu ag ieithoedd eraill ac eithrio Saesneg. Os hynny fe
dderbyniwn eich CV yn Sbaeneg. Cymerwch ofal gydag ansawdd yr
iaith rydych yn ei defnyddio, yn ogystal â'r cynnwys,
gan fod hyn yn rhan o'r broses ddethol. Siaradwyr brodorol sy'n
cyfieithu i mewn i'w mamiaith a ddefnyddiwn yn unig.
Aseiniadau
diweddaraf: Ar hyn o bryd rydym yn chwilio am gyfieithwyr
a phrawfddarllenwyr ar gyfer testunau byr rheolaidd o Saesneg
i'r ieithoedd canlynol: Rwmaneg, Pwyleg, Tsieinëeg Mandarin,
Arabeg, Tyrceg a Groeg. Rhaid i ymgeiswyr fod yn barod i weithio'n
gyflym (24 awr yn achos dogfennau sy'n cynnwys llai na 250 o
eiriau ffynhonnell), rhaid iddynt fod yn siaradwyr brodorol
yr iaith darged, a rhaid iddynt for â hanes gyrfa profedig
fel cyfieithydd gyda chymhwyster proffesiynol perthnasol.
Cyfieithwyr llawrydd, cliciwch
yma i wneud cais i betterlanguages.com
|
|
| |
|
|
| |
Hawlfraint © 2006
asiantaeth gyfieithu betterlanguages.com.
Cedwir pob hawl.
|
|
|

|
|
betterlanguages.com
5 Nursery Road, Bingham, Nottingham, NG13 8EH, DU.
Ffôn: 01949 839810
|
|