betterlanguages.com

Cartref cyfieithu
o'r radd flaenaf
 
   

"Diolch Mike am ymateb mor fuan, bydd fy nghwsmer i wrth ei
fodd, wir!!!"

Jodie Cordery,
Gweinyddydd GwerthuLabelon
Sales Cyf

 
Cyfieithwyr:
cyfieithwyr a dehonglwyr proffesiynol cymwys a phrofiadol yn unig a ddefnyddir gan betterlanguages.com. Maent yn cael eu dethol yn ofalus yn unol â'n safonau ansawdd. Cyflawnwn gyfieithiadau gwell drwy weddu sgiliau a phrofiad y cyfieithydd yn ofalus i'r aseiniad cyfieithu unigol.

Mae'r holl waith cyfieithu'n cael ei wirio'n ofalus i sicrhau ei fod yn bodloni'r safonau uchaf. Gall prawfddarllen gael ei drefnu i gyd-fynd â'ch gofynion chi. Sefydlwyd ni yn 1993, ac mae gennym gyfieithwyr proffesiynol sy'n ymdrin â'r mwyafrif o ieithoedd ac arbenigeddau, gan gynnwys rhai ieithoedd prinnach fel Slofeneg.

A ydych o'r farn fod asiantaethau'n oeraidd ac yn amhersonol? Rydym ni'n gweithio'n galed i ddatblygu gwasanaeth cyfieithu wedi ei bersonoleiddio sy'n cyd-fynd â gofynion y cwsmer, a dyna pam mae'n cwsmeriaid ni'n defnyddio ymadroddion fel "rydych chi bob amser yno i ni" ac "rydych chi'n ddibynadwy".
  Gwasanaeth Cwsmeriaid Personol

Cyfarwyddwyr:

Mike Hunter MBA DMS BA (Econ.)
Mae gan Mike gefndir mewn uwch reolaeth yn y DU a Sbaen, ac mae'n deall anghenion cyfieithu cwmnïau ac unigolion i alluogi cyfathrebu rhyngwladol effeithiol. Mae wedi gweithio'n hyfforddwr ac yn diwtor iaith. Cyflawnodd MBA ym Mhrifysgol Nottingham Trent, a oedd yn cynnwys arbenigeddau mewn sicrwydd ansawdd, rheolaeth gyhoeddus, a phrosiect ymgynghorol i'r Groes Goch yn Ynysoedd y Cayman.

Beatriz Hunter MCIL

Mae Bea yn ieithydd cymwys a phrofiadol o Sbaen, ac yn aelod o Sefydliad Siartredig yr Ieithyddion. Mae ei harbenigeddau cyfieithu yn cynnwys testunau meddygol ar gyfer systemau rheoli treialon clinigol, labeli a chyfarwyddiadau pecynnau i'r diwydiant dillad. Mae hefyd yn cynnig cyfieithu ar y pryd a dehongli i fusnes, gwasanaethau cymdeithasol a'r system gyfreithiol. Pan nad yw'n cyfieithu mae ei diddordebau'n cynnwys coginio a garddio.

Lleoliad y swyddfa: Lleolir ein swyddfa yn nhref farchnad ddarluniaidd Bingham yn Swydd Nottingham. Cewch glywed mwy am fusnes yn Bingham oddi wrth Glwb Busnes Bingham. Os hoffech wybod mwy am yr ardal, mae gan Gyngor Tref Bingham rai cysylltiadau lleol defnyddiol.

Moeseg a Gwerthoedd: Mae'r ddau ohonom yn Gristnogion efengylaidd, a chynhaliwn ein busnes yn unol â moeseg a gwerthoedd Cristnogol. Fel Cristnogion credwn mewn rhagoriaeth ym mhopeth a wnawn. Rydym felly'n gweithio'n galed i fodloni anghenion ein cwsmeriaid. Y Ganolfan Gristnogol yn Nottingham yw'n heglwys ni.



 
 
betterlanguages.com yw enw masnachu betterlanguages.com Cyfyngedig
Cofrestrwyd y cwmni yng Nghymru a Lloegr Rhif: 6186734

Swyddfa gofrestredig: 1 Fisher Lane, Bingham, Nottingham, NG13 8BQ, DU
Rhif TAW GB 889 0911 76



Hawlfraint © 2006 asiantaeth gyfieithu betterlanguages.com.
Cedwir pob hawl.

 
Cyfieithu Ieithoedd

Siaradwyr brodorol yw pob un o'n cyfieithwyr, gan gyfieithu i'w mamiaith er mwyn sicrhau ffyddlondeb a chywirdeb.

Detholir cyfieithwyr ar y pryd ar sail eu cymhwyster profedig yn y maes a'r ieithoedd sydd eu hangen.

Ymdrinnir â phob aseiniad a dyfynbris ar sail cyfrinachedd llwyr.

betterlanguages.com
5 Nursery Road, Bingham, Nottingham, NG13 8EH, DU.

Ffôn: 01949 839810