Cyfieithu gwefannau yw un o’n gwasanaethau craidd. Mae gan lawer o’n cleientiaid anghenion cyfieithu ar gyfer gwefan, a yrrir yn aml gan awydd i farchnata eu hun yn rhyngwladol. Mae better languages yn rhoi gwasanaeth i fentrau bach a chanolig yn ogystal â chleientiaid mwy o faint, ac enghraifft dda o brosiect bach cyfieithu gwefan yw’r gwaith a wnaethom i Westy King Charles, yn Gillingham, Swydd Caint. Roedd gan y cleient wefan yn y DU eisoes, ac roedd am greu safleoedd bychan i ddenu cwsmeriaid o wledydd Ewropeaidd cyfagos. Trafodom ni rinweddau cymharol gwefannau ar wahân a gynhelir yn y gwledydd hynny, neu un wefan yn y DU, ac yn y pen draw penderfynodd y cleient ddewis cymysgedd, gan ofyn i ni gyfieithu nifer o dudalennau allweddol i’r Almaeneg, Fflemeg, a Ffrangeg.
Yn aml bydd cleientiaid yn cysylltu â ni ac yn gofyn i’w gwefannau llawn gael eu cyfieithu, ac er ein bod yn hapus i wneud hyn, mae’n syniad da yn aml ystyried y negeseuon rydych am eu cyfleu. Bydd cwtogi’r cynnwys yn arbed costau cyfieithu, a hefyd yn lleihau amser datblygwr wrth roi’r wefan at ei gilydd. Os edrychwch ar wefan King Charles, fe welwch ar unwaith fod mwy o dudalennau o gynnwys Saesneg, sy’n rhywbeth cwbl fwriadol gan y cleient, er enghraifft ni fyddai digwyddiadau arbennig yn hynod berthnasol i ymwelwyr o dramor, felly pam cynnwys y dudalen?
Mae’r math hwn o ymagwedd yn berthnasol hefyd i wefannau e-fasnach. Ble bydd cleient yn ceisio gwerthu’n rhyngwladol, efallai y bydd ganddo gymysgedd gwahanol o gynhyrchion ar gyfer marchnad ryngwladol benodol, neu efallai ei fod yn dymuno rhoi gwybodaeth sy’n benodol i’r wlad yna, er enghraifft gwybodaeth leol am ddosbarthwyr.
Yn achos Gwesty King Charles, nid oedd fawr angen ei optimeiddio ar beiriannau chwilio, gan y byddai darpar gleientiaid yn tueddu i fod yn chwilio ar sail lleoliad, felly roedd yn bwysig bod gwybodaeth am y lleoliad, a syniad o’r ardal o’i amgylch, yn cael ei chynnwys, er enghraifft agosrwydd at Chatham, Gillingham, a Rochester.
Ein hymagwedd at ddarparu’r cyfieithiadau oedd ein bod yn gweithio o set gytûn o gynnwys o wefan y DU, gan ddarparu’r cyfieithiadau mewn fformat Word, gyda chopïau pdf, a ganiataodd i’r cleient gadarnhau bod acenion a chymeriadau arbennig yn cael eu dangos yn gywir. Ar ôl i’r fersiynau o’r wefan wedi eu cyfieithu gael eu paratoi, gwnaethom eu gwirio a’u cymeradwyo. Dyma ran bwysig iawn o’r broses gyda gwefannau, gan ei bod yn hawdd iawn i wallau ymddangos wrth godio tudalennau. Hyd yn oed gyda thudalennau lle rheolir y cynnwys, mae’n bosibl y bydd yna gamgymeriadau torri a phastio. Gall fod problemau gan wefannau mwy cymhleth gyda phethau fel testun cudd hefyd, neu ‘alt text’ yn peidio â chael ei gynnwys, ac felly angen mân betheuach ychwanegol ar y cleient. Gallwn drosi a dychwelyd darnau bach o destun yn gyflym iawn, ond mae’n bwysig cynllunio ar gyfer y math hwn o ddigwyddiad annisgwyl, gan gynnwys caniatáu amser ar gyfer cywiriadau a newidiadau.