Ffoniwch ni nawr! +44(0)1949 838183

Cyfieithiadau Amserol

Gwasanaeth Cyfieithu Cyflym

Astudiaeth Achos House of Crafts

Mae betterlanguages.com wedi bod wrthi’n cyfieithu cyfarwyddiadau pecynnau crefft ar ran Cwmni Swydd Caerlŷr The House of Crafts er 2006. Mae’r cwmni yn gweithgynhyrchu amrediad o becynnau crefft, ac rydym wedi cyfieithu cyfarwyddiadau am y rhain ar gyfer gwahanol farchnadoedd Ewropeaidd. Yn debyg i’r rhan fwyaf o feysydd gwaith cyfieithu mae angen amrediad o eirfa arbenigol, a bu’n bwysig i’r cyfieithwyr ddeall y cynhyrchion, ac mewn nifer o achosion godi cwestiynau technegol. Mae lluniau a diagramau cyfarwyddo ar gyfer cynhyrchion yn ddefnyddiol i gyfieithwyr wrth weithio, ac mae cyfieithwyr hefyd yn “wiriad synnwyr” defnyddiol ar gyfer y dalenni cyfarwyddiadau. Os bydd y cyfarwyddiadau’n aneglur mewn unrhyw ffordd i gyfieithydd technegol, mae’n debyg y byddant yn aneglur i’r cwsmer yn y pen draw. Yn ffodus mae ein cleient yn ysgrifennu cyfarwyddiadau da ac eglur iawn, ac yn darparu diagramau rhagorol, y gall y cyfieithwyr gyfeirio atynt wrth eu gwaith. Yn achos yr holl waith i The House of Crafts, rydym wedi defnyddio cyfieithwyr sydd yn y wlad dan sylw er mwyn cael y derminoleg fwyaf cyfredol a chywir.