Ffoniwch ni nawr! +44(0)1949 838183

Cyfieithiadau Amserol

Gwasanaeth Cyfieithu Cyflym

mothercare: Astudiaeth Achos cyfieithu

Ni yw unig ddarparwyr cyfieithiadau i mothercare ers 2006, gan gyfieithu cynhyrchion eu brand eu hun gan gynnwys labeli dillad, pecynnau, a thaflenni ac arweiniadau defnyddwyr cynhyrchion. Rydym hefyd yn darparu gwasanaethau cysodi gan gynnwys cyflenwi ffeiliau EPS amlinell Arabeg yn fersiynau’r Dwyrain Canol o InDesign ac Illustrator.
Mae mothercare yn fanwerthwr amlwladol, sydd ar hyn o bryd mewn 50 o wledydd. Rydym yn cyfieithu i 9 iaith, gan gynnwys Groeg, Arabeg, a Tsieinëeg Symleiddiedig. Fel unig ddarparwyr rydym yn gweithio’n uniongyrchol gyda staff mothercare, a hefyd gyda chyflenwyr allanol.
Nodweddion ein gwaith ni yw:
Gweithio’n agos gyda’r tîm mewnol er mwyn sicrhau cysondeb a chywirdeb.
Mae’r mwyafrif o’n cyfieithwyr yn y gwledydd dan sylw, sy’n sicrhau terminoleg gyfredol.
Ymagwedd gadarnhaol: helpu i ddatrys problemau, gan gynnwys rhoi cyngor ar faterion diwylliannol a lleoleiddio.
Gweithdroad cyflym, er enghraifft un o’n cyfieithwyr yn yr Unol Daleithiau yn gweithio drwy wyliau 4ydd Gorffennaf, pan oedd angen swm mawr o gyfieithiadau ar gyfer agoriad siop yn Tsieina.