Ffoniwch ni nawr! +44(0)1949 838183

Cyfieithiadau Amserol

Gwasanaeth Cyfieithu Cyflym

News

Dirwasgiad – pa ddirwasgiad?

November 13th, 2008 - Newyddion

Er ein bod ni’n gwybod bod llawer o fusnesau ac unigolion yn dioddef o ganlyniad i’r dirwasgiad presennol, mae’n bleser gan betterlanguages.com Cyf gyhoeddi’r lefel uchaf erioed o fusnes yn ail chwarter 2008. Roedd y galw am wasanaethau cyfieithu ar ei uchaf erioed i’r cwmni o ganlyniad i gyfuniad o fwy o archebion oddi wrth gleientiaid presennol, ac ennill busnes cyfieithu newydd oddi wrth gwsmeriaid newydd. Adroddodd Mike Hunter, y Prif Weithredwr, fod “y galw am wasanaethau cyfieithu yn dal i godi, gyda llawer o fusnesau’n ceisio gwneud mwy o werthu mewn marchnadoedd tramor. Rydym wedi cael ymholiadau newydd o’r Unol Daleithiau, o gwmnïau sydd am ehangu mewn marchnadoedd Ewropeaidd. Mae cwsmeriaid presennol yn edrych ar farchnadoedd newydd hefyd. Eleni rydym wedi cyfieithu mwy i Tseinïeg Symleiddiedig, Arabeg a Rwsieg nag i unrhyw ieithoedd eraill.”

No Comments So Far

Make a comment



Your Message:

* required