Ffoniwch ni nawr! +44(0)1949 838183

Cyfieithiadau Amserol

Gwasanaeth Cyfieithu Cyflym

Gwasanaethau Cyfieithu

Gwasanaethau Cyfieithu gan asiantaeth gyfieithu flaenllaw

Beth bynnag eich anghenion cyfieithu, gall betterlanguages.com helpu. Mae ein tîm arbenigol o gyfieithwyr yn cynnig ystod lawn o wasanaethau cyfieithu gan gynnwys cyfieithu gwefannau, cyfieithu labeli a phecynnau, a phob math o gyfieithu technegol a busnes. Cynigiwn wasanaethau iaith eraill hefyd gan gynnwys gwaith cyfryngu, lleoleiddio a dehongli.
Defnyddiwn gyfuniad o gyfieithwyr iaith yn y DU ac yn eu gwledydd eu hun, pob un yn gweithio yn eu hieithoedd brodorol. Rydym yn cyfieithu rhwng Saesneg Brydeinig, neu Saesneg Americanaidd, a phob un o brif ieithoedd y byd; hefyd gallwn leoleiddio rhwng Saesneg Brydeinig a Saesneg Americanaidd. P’un a ydych am gael cyfieithiad o destun byr i un iaith, neu mae gennych chi brosiect cymhleth y mae angen ei gyfieithu i nifer o ieithoedd, gallwn ni helpu.

Yr hyn rydym yn ei gynnig

  • Asiantaeth gyfieithu ar y we sy’n cynnig gwasanaeth ansawdd dda sy’n gyflym ac yn gywir, a hynny am bris cystadleuol
  • Dychwelyd gwaith yr un diwrnod neu’r diwrnod wedyn os yw cyfieithiadau’n fyr
  • Nifer fawr o ieithoedd
  • Cyfraddau arbennig ar gyfer dogfennau byr
  • Grwp rhagorol o gyfieithwyr arbenigol sy’n cyfieithu i’w hiaith frodorol
  • Testunau cyffredinol am brisiau cystadleuol
  • Pob arbenigedd, gan gynnwys labeli a phecynnau, busnes cyffredinol a thestunau meddygol

Cynigiwn unrhyw gyfuniad iaith â Saesneg, ac ystod gynyddol o ieithoedd mewn cyfuniad â Sbaeneg. Enghraifft o’n gwaith nodweddiadol yw’r label a gyfieithasom yn ddiweddar i 14 o ieithoedd Dwyrain Ewrop. Mae ein holl gyfieithwyr yn frodorol ac yn cyfieithu i’w mamiaith yn unig, a defnyddiwn gyfieithwyr arbenigol ar gyfer pob testun cyfieithu technegol. Cewch anfon y gwaith atom drwy’r e-bost, ffacs, post neu negesydd yn ôl eich anghenion chi, a gallwn ddychwelyd y dogfennau wedi eu cyfieithu yn electronig, neu drwy ddisg a/neu gopi caled.

Cyfieithu Labeli a Phecynnau

Cyfieithu labeli amlieithog: Boed cyfarwyddiadau gofal golchi a chynnwys ffibr...

Cyfieithu Gwefannau

Ffoniwch neu anfonwch e-bost heddiw am ymgynghoriad cychwynnol am ddim...

Cyfieithu Cyfreithiol

Gwasanaeth cyfieithu cyfreithiol cyflym ac effeithlon, ym mhob prif iaith....