Gwasanaeth cyfieithu cyfreithiol cyflym ac effeithlon, ym mhob prif iaith.
Ffoniwch neu anfonwch e-bost heddiw i drafod eich gofynion am cyfieithu cyfreithiol.
Mae betterlanguages.com yn arbenigo mewn cyfieithu cyfreithiol ansawdd uchel. Mae hyn yn cynnwys cyfieithu tystysgrifau a diplomâu i unigolion preifat neu gyrff proffesiynol. Mae gwaith diweddar wedi cynnwys cyfieithu dogfennau llys i’r Almaeneg ac Wrdw, cyfieithu contract datblygu i Ffrangeg y Congo, a chontractau Olew a Nwy o Saesneg i Rwsieg.
cyfieithu dogfennau cyfreithiol
Cyfieithu ardystiedig: os oes angen i ddogfennau gael eu hardystio, gallwn eu darparu ar bapur brig y cwmni, wedi eu stampio a’u llofnodi. Nid oes gan Brydain unrhyw system swyddogol o “Gyfieithu dan Notari” fel sydd gan lawer o wledydd eraill, ond gall dogfennau gael eu llofnodi gerbron cyfreithiwr, os oes angen. Mae’n werth cadarhnau’r union ofynion, gan nad oes angen y gwasanaeth olaf hwn yn aml, ac mae cyfieithu cyfreithiol yn gyflymach ac yn rhatach os nad oes angen y gwasanaeth hwn.
Dewis cyfieithwyr
Mae betterlanguages.com bob amser yn defnyddio cyfieithwyr sydd wedi eu cymhwyso’n broffesiynol, y mae’r iaith darged yn famiaith iddynt, ac sy’n arbenigo mewn maes perthnasol. Rydym yn cydnabod bod gan gwmnïau ac unigolion amrywiaeth eang o anghenion o ran cyfieithu cyfreithiol, ac felly rydym yn gweddu cyfieithwyr a phrawfddarllenwyr yn ofalus iawn i bob aseiniad unigol.
Mae cyfrinachedd cleientiaid yn bwysig ym mhob maes ein gwaith, ond rydym yn cydnabod y gall dogfennau cyfreithiol fod yn arbennig o sensitif. Rydym yn fodlon llofnodi cytundebau cyfrinachedd cyn dechrau gwaith ar aseiniad, ar yr amod eu bod yn cyd-fynd â chyfraith Prydain ac Ewrop.
Dyfynbris am ddim am gyfieithu cyfreithiol
Cysyllwch â betterlanguages.com heddiw dros y ffôn neu drwy’r e-bost i drafod eich angen am gyfieithu cyfreithiol.