Ffoniwch ni nawr! +44(0)1949 838183

Cyfieithiadau Amserol

Gwasanaeth Cyfieithu Cyflym

Cyfieithu Gwefannau

Ffoniwch neu anfonwch e-bost heddiw am ymgynghoriad cychwynnol am ddim ynghylch cyfieithu gwefannau

Mae betterlanguages.com yn arbenigo mewn cyfieithu gwefannau i safon uchel, gan ganiatáu i chi gyfathrebu neges glir mewn unrhyw un o brif ieithoedd y byd. Gallwn ni drafod y mwyafrif o fformatau ffeiliau, a gweithio’n uniongyrchol gyda’ch dylunydd gwe os oes angen. Gall cyfiethiadau gael eu paratoi mewn fformat Word neu pdf i chi eu hychwanegu at eich safle, neu gallwn ni gyfieithu tudalennau gwe byw, gan weithio’n uniongyrchol o’r cod gwreiddiol, a darparu’r cyfieithiad mewn html yn y mwyafrif o ieithoedd. Y nod yw cynhyrchu testun gwe o ansawdd uchel ag iddo naws testun gwreiddiol.

Cyfieithu testun a gwelywio effeithiol ar gyfer gwefan

Mae cyfieithu effeithiol ar gyfer gwefan yn ymwneud nid yn unig â chyfieithu’r geiriau ar bob tudalen gwe, mae’n bwysig cyfieithu teitlau tudalennau, disgrifiadau ac unrhyw destun amgen yn ogystal. Mae’n bwysig meddwl hefyd sut bydd cwsmer yn gallu defnyddio’ch gwasanaethau chi, a gwelywio drwy’r safle.
Ydych chi am eneradu ymholiadau ffôn mewn iaith arall, neu ydych chi am i bobl osod archebion safonedig drwy gyfrwng yr e-bost?
A allwch chi ddal unrhyw ddata hanfodol yn gywir? Does dim byd yn cythruddo mwy na llenwi ffurflen we sy’n gwrthod eich gwybodaeth am fod gennych chi gyfeiriad neu rif ffôn nad yw’n cyd-fynd â’r arddull ofynnol. Cofiwch fod ieithoedd sy’n mynd o’r dde i’r chwith fel Arabeg a Hebraeg yn gofyn am lywio o’r dde i’r chwith felly byddant yn ddrych o fersiwn Saesneg.

Ansawdd a maint cyfieithiad

Cofiwch mai anaml y bydd cyfieithiad yn well na’r testun gwreiddiol (er ein bod yn gallu gwneud gwyrthiau!). Os yw’ch neges yn aneglur yn Saesneg, fydd hi ddim yn well yn yr iaith darged, felly gwnewch yn siwr eich bod yn fodlon ar y cynnwys Saesneg yn gyntaf. Rydym ni bob amser yn defnyddio cyfieithwyr proffesiynol, y mae’r iaith darged yn famiaith iddynt, ac sy’n arbenigo mewn maes perthnasol. Er eghraifft, wrth gyfieithu gwefan www.Roodsafe.com i’r Almaeneg, roedd ar y cleient eisiau i’r cynnwys technegol gael ei gyfieithu, yn ogystal â chael y telerau ac amodau gwerthu yn Almaeneg. Roedd hyn yn gofyn am arbenigeddau gwahanol, felly cafodd y cyfieithu a’r prawfddarllen cyfreithiol eu gwneud gan gyfieithwyr cyfreithiol arbenigol, a’r cynnwys adeiladu ei gyfieithu a’i brawfddarllen gan gyfieithwyr a oedd yn arbenigwyr mewn peirianneg adeiladu. Wrth gyfieithu i’r Eidaleg, nid oedd ar y cleient angen cyfieithiad o’r telerau ac amodau. Arweiniodd hyn at arbedion cost sylweddol, heb leihau ansawdd y cyfieithiad.

Parthau a gwesteio

Rhowch sylw i barthau a gwesteio. A fydd y tudalennu sydd wedi eu cyfieithu’n cael eu gwesteio ar eich parth presennol, neu oes arnoch chi angen barthau a gwesteio ar wahân mewn gwleydydd eraill ar gyfer y fersiynau iaith gwahanol? Mae hyn yn dibynnu i raddau helaeth ar eich diben wrth gyfieithu. Os edrychwch chi’n agos ar eich safle ni, fe welwch fod y fesriynau Cymraeg a Saesneg yn cael ei gwesteio ar www.betterlanguages.com, tra bod y fersiwn Sbaeneg yn www.betterlanguages.es a’r fersiwn Almaeneg yn www.betterlanguages.de. Mae’r hyn sydd â golwg ac ymarferldeb un safle mewn gwirionedd yn dair gwefan, gyda pharthau a gwesteio ar wahân.

Dulliau o ddefnyddio gwybodaeth sydd wedi ei chyfieithu

Yn lle cyfieithu gwefan lawn, neu dudalen we lawn, dewis amgen yw darparu gwybodaeth y mae modd ei lawrlwytho yn yr iaith ofynnol, er enghraifft, wrth baratoi gwybodaeth ar gyfer Canolfan Ymwelwyr Brwydr Bosworth, darparom ni pdfs a gynhwysai wybodaeth am y frwydr mewn 20 iaith.
Gallai ymagwedd debyg gael ei defnyddio gyda gwybodaeth neu lyfrynnau cwmni.

Edrychwch ar Enghraifft Saesneg Bosworth »
Edrychwch ar Enghraifft Hindi Bosworth »

Rheoli Cynnwys

Meddyliwch am sut rydych chi am reoli cynnwys eich safle aml-ieithog. Os ydych yn bwriadu diweddaru’r fersiwn Saesneg yn rheolaidd, bydd angen i chi ddiweddaru’r cyfieithiadau. Gallwn ni ddarparu diwygiadau bach yn gyflym iawn, gan sicrhau eich bod yn cadw’ch neges yn gyfredol.

Ymgynghoriad am ddim ynghylch cyfieithu gwefan

Cysylltwch â betterlanguages.com heddiw am ymgynghoriad cychwynnol am ddim i drafod eich angen i gyfieithu gwefan.