Fel darparwr blaenllaw gwasanaethau iaith, mae betterlanguages.com yn cynnig ystod o wasanaethau iaith yn yr holl brif ieithoedd. Mae hyn yn cynnwys dehongli, lleoleiddio, gwaith iaith cyfryngol, a hyfforddiant iaith, ac rydym hefyd yn cyflenwi amrediad o adnoddau iaith. Am wasanaethau cyfieithu gweler ein hadran ar wahân ar wasanaethau cyfieithu, gan gynnwys tudalennau arbenigol am gyfieithu labeli, cyfieithu pecynnau, cyfieithu gwefannau, a chyfieithu cyfreithiol.
Sylwch er bod y mwyafrif o dasgau’n rhai annaearyddol yn achos gwaith cyfieithu ysgrifenedig, hynny yw rydym fel arfer yn anfon ac yn derbyn archebion drwy’r e-bost, yn achos dehongli, hyfforddiant a rhai mathau o waith cyfryngu, mae angen i’r gwasanaethau fod yn lleol, felly mae’n bosibl na fyddwn yn gallu darparu pob gwasanaeth ym mhob rhan o’r byd. Gan mai proses o wneud neges yn un leol yw lleoleiddio, er enghraifft hoelio ffocws eich gwefan ar gynulleidfa benodol, mae gwasanaethau lleoleiddio’n fwy amhenodol a gallant gael eu cyflenwi mewn llawer o fannau, ond yn dibynnu ar wybodaeth leol a sgiliau’r ieithydd, ac rydym yn gwneud pob ymdrech felly i sicrhau bod gan ieithyddion wybodaeth o’r sector a’r farchnad benodol.